Y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd

 

Cofnodion

 

 

Statws: Cymeradwywyd gan y Cadeirydd

 

Dyddiad y cyfarfod

3 Medi 2014

 

Yn bresennol

 

Mark Isherwood AC (Ceidwadwyr Cymreig – Cadeirydd), Aled Roberts AC (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru), Janet Finch-Saunders AC (Ceidwadwyr Cymreig), John Beasley (Rheolwr Partneriaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau), John Bisby (Rheolwr Ardal yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru), Sian Morgan (Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyflogaeth Remploy), Karen Beattie (Aelod DW), Jenny Lewis (Mam a Gofalwraig), Rhian Davies (Anabledd Cymru), Owen Williams (Cyngor Cymru i’r Deillion), Rebecca Phillips (Cyngor Cymru i’r Deillion), Wayne Crocker (Mencap Cymru), Rob Wilson (Sefydliad Rowan), Anne Collis (Barod), Emma Reeves-McCall (Tai Pawb), Paul Warren (Diverse Cymru), Vin West (Grŵp Mynediad Arfon), Morgan Armstrong (WCVA), Ian Ellison (BASW), Clive Emery (Enterprising Employment), Grace Jackson (Remploy), Mike Gallagher (Mencap Cymru), Debra Jennings, Simona Merlusca (NWREN), John Roberts (CAB Sir Ddinbych), Susan Shingler (Scope), Joy Smith (Vision Support), Jan Underwood, Andrea Wayman (ELITE), Victor Martin Hunt, Paul Swann (Anabledd Cymru - Ysgrifennydd).

1.

Croeso, cyflwyniadau, ymddiheuriadau

Croesawodd Mark Isherwood (MI) bawb i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd (CPGD). Nododd, gan fod Rebecca Evans AC wedi cael dyrchafiad i fod yn Ddirprwy Weinidog, ei bod wedi camu i lawr fel Cyd-gadeirydd. Mae’r grŵp yn gobeithio dod o hyd i rywle arall yn ei lle, ond yn y cyfamser, bydd MI yn parhau i gadeirio’r CPGD.

Ymddiheuriadau:

Jim Crowe (Anabledd Dysgu Cymru), Ruth Coombs (Mind Cymru), Llyr Huws Gruffydd AC (Plaid Cymru), Bethan Jenkins AC (Plaid Cymru), Simon Thomas AC (Plaid Cymru), Mohammed Asgar AC, Ruth Crowder (Coleg y Therapyddion Galwedigaethol), Tracey Good (Canolfan y GIG ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol), Janine Gunstone, Robert Gunstyone, Lindsay Haveland (CTAUK), Maggie Hayes (Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot), Ele Hicks (Diverse Cymru), Peter Jones (Guide Dogs), Henry Langen (Grŵp Mynediad Sir Benfro), Catherine Lewis (Plant yng Nghymru), Robin Moulster (BASW), Tom Raines (NDTI), Belinda Robertson, Cath Taffurelli (BASW), Mary van den Heuvel, Michelle Fowler-Powe (BDA).

 

2.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 4 Mehefin 2014

Roedd cywiriad i’r dyddiad. Nododd y cofnodion bod y cyfarfod wedi cael ei gynnal ar 14 Mehefin, pan mai 4 Mehefin ydoedd mewn gwirionedd. Fel arall, cytunwyd ei fod yn gofnod cywir.

 

3.

Materion yn codi o’r cofnodion

 

Canfyddiadau Ymchwil o Arolwg Gwrth-Fwlio

Mynegodd RD ei phryder dros nifer uchel y plant a phobl ifanc a oedd wedi tystio neu brofi bwlio ar sail anabledd.

 

Ysgrifennodd y grŵp at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Jeff Cuthbert AC. Ers hynny, mae Barnardos wedi cynnal cyfarfodydd â’r Gweinidog ac argymhellwyd y byddai Grŵp Trawsbleidiol ar Anabledd at y Gweinidog Addysg, Huw Lewis AC, i helpu i godi ymwybyddiaeth ac i newid agweddau at anabledd mewn ysgolion. Mae’r Cadeirydd wedi anfon llythyr at y Gweinidog ac maent yn gobeithio cael ymateb erbyn y cyfarfod nesaf.

 

Amlygodd PS y digwyddiad diweddar yn y newyddion yn ymwneud â dy ifanc gyda Syndrom Asberger o Bontypridd. Awgrymodd PS fod y CPGD yn gwneud cais am adroddiad o’r digwyddiad gan gomisiynydd yr heddlu. Teimlodd ei fod yn bwysig sicrhau bod hyn yn cael ei ystyried yn llawn ac yn awyddus i wybod pa gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod digwyddiadau tebyg yn cael eu cymryd o ddifrif. Awgrymodd gwahodd Comisiynydd yr Heddlu i gyfarfod CPGD yn y dyfodol. Croesawodd y grŵp hynny.

 

Awgrymodd MI ysgrifennu at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi hefyd.

 

Cam i’w gymryd: Gwahodd Comisiynydd yr Heddlu i gyfarfod CPGD yn y dyfodol.

 

Cam i’w gymryd: CPGD i ysgrifennu at y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.

 

 

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant  (Cymru) – Gwelliant Eiriolaeth

 

Mae’r CPGD wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas AC, i gael amserlenni a manylion aelodaeth y Grŵp Technegol ar Eiriolaeth.

 

Mewn ymateb i hyn, cadarnhaodd WG y bydd y rownd nesaf o grwpiau yn dechrau y flwyddyn nesaf. Bydd RD yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r CPGD.

 

Cam i’w gymryd: RD i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Grŵp Technegol ar Eiriolaeth pan fydd yn cyrraedd.

 

Y Gronfa Byw’n Annibynnol

 

Cadarnhaodd PS bod y dyddiad cau wedi mynd nôl dri mis, i 30 Mehefin y flwyddyn nesaf. Mae her arall yn mynd rhagddo o ganlyniad i fethiant Gweinidog y DU dros Bobl Anabl i gysylltu â hawlwyr presennol a chasglu eu barn.

 

Disgwylir i adolygiad barnwrol arall ddechrau ym mis Hydref. O fewn yr ychydig wythnosau nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad ar ddyfodol ILF yng Nghymru a bydd y Dirprwy Weinidog yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar yr ymatebion ar ddiwedd y flwyddyn. Bydd Anabledd Cymru yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r ymgynghoriad mor eang â phosibl. Cynigiwyd cyfres o sesiynau briffio.

 

Cam i’w gymryd: Anabledd Cymru i roi cyhoeddusrwydd i fanylion yr ymgynghori a sesiynau briffio

 

UNCRDP

Atgoffodd RD y grŵp y bydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yn dod i’r DU yr hydref nesaf. Bydd Anabledd Cymru yn cyflwyno adroddiad cysgodol, mewn partneriaeth â sefydliadau ambarél anabledd cenedlaethol eraill. Bydd yr adroddiad yn cynnwys rhestr o gwestiynau yr hoffent i’r Pwyllgor ofyn i Lywodraeth y DU. Cytunodd RD i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp a dosbarthu’r cwestiynau.

 

Cam i’w gymryd: RD i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r CPGD ar ymweliad UNCRDP a dosbarthu’r cwestiynau.

 

4.

Aelodaeth CPGD

Rhoddodd MI wybodaeth i’r Grŵp gan fod Rebecca Evans AC wedi gadael, bod y CPGD yn chwilio am Aelod Cynulliad i gyd-gadeirio’r Grŵp. Cadarnhaodd MI nad oes gan y grŵp gynrychiolaeth ddigonol gan y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ar hyn o bryd.

 

Ychwanegodd MI fod Rebecca Evans AC yn dymuno’n dda i’r grŵp a bydd yn parhau i ddilyn cynnydd y Grŵp.

5.

Cyflwyniadau:

 5.1 Anabledd a Chyflogaeth yng Nghymru - yr Adran Gwaith a Phensiynau: John Beasley (Rheolwr Partneriaeth, Cymru) a John Bisby (Rheolwr Ardal ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru)

 

Siaradodd John yn gyntaf am rôl y DEA yn y ganolfan waith, sy’n helpu pobl anabl i ganfod a chadw cyflogaeth a bod Mynediad i Waith yn helpu i alluogi hyn. Nododd y newidiadau diweddar, gan gynnwys cau safleoedd. Erbyn hyn mae 6 safle strategol yn hytrach na 77, a does dim un ohonynt wedi eu lleoli yng Nghymru. Roedd yn cydnabod bod yna oedi yn y gwasanaeth oherwydd y newidiadau, ond sicrhaodd y grŵp eu bod yn mynd i’r afael â hwy.

 

Nododd fod y meini prawf i fod yn gymwys i gael Mynediad i Waith bellach yn ymestyn i bobl sydd mewn lleoliadau profiad gwaith.

 

Nodwyd nifer o bryderon gan aelodau’r grŵp fel unigolion yr oedd cymorth yn gwrthod cael ei roi iddynt oherwydd bod y rôl wedi’i chynllunio’n arbennig ar gyfer person anabl. Roedd eraill yn cael anawsterau yn cysylltu â’r tîm Mynediad i Waith. Roedd rhai yn nodi diffyg cysondeb rhwng un unigolyn ac un arall, ac roedd rhai yn teimlo bod angen aseswyr ddiffyg gwybodaeth am namau a chyflyrau iechyd penodol.

 

Roedd JB yn cydnabod bod rhai problemau ond eu bod yn cael eu trin. Nododd fod rhai materion perfformiad ymysg aseswyr ond bod y rhai yn cael sylw. Cytunodd i ddosbarthu manylion cyswllt Mynediad i Waith newydd i’r grŵp.

 

Ychwanegodd fod adolygiad mewnol wrthi’n cael ei gynnal ac y bydd adroddiad yn dilyn ym mis Tachwedd. Yn ogystal, argymhellodd fod y grŵp yn darllen y ‘Strategaeth Iechyd a Chyflogaeth i Bobl Anabl’. Dywedodd fod y ddogfen yn parhau i fod yn destun ymgynghoriad ond bod Llywodraeth y DU yn ymrwymedig i helpu pobl anabl mewn cyflogaeth.

 

Yn dilyn y cyflwyniad cafwyd sylwadau a chwestiynau o’r llawr. Nododd Barod agweddau annerbyniol tuag at bobl gydag anawsterau gan rai staff mewn canolfannau gwaith.

 

Roedd JB yn siomedig o glywed hyn a chytunodd i adrodd y mater yn ôl. Awgrymodd hefyd bod Barod yn helpu gyda rhaglen hyfforddi yn y dyfodol, a gafodd ei groesawu.

 

Gofynnodd JB pa lefel o hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd y mae’r aseswyr newydd yn ei gael.

 

Mewn ymateb i hyn, cytunodd JB i edrych ar hyn ac adrodd yn ôl. Mae’n credu y bydd hyfforddiant ymwybyddiaeth ar gyfer anabledd yn benodol yn cael ei ddarparu unwaith y bydd yr aelodau newydd o staff wedi cael hyfforddiant gweithredol.

 

 

5.2 Remploy: Sian Morgan

 

Nododd SM y bydd Remploy yn lansio brand Remploy Cymru yn fuan.

 

Maent yn gweithio’n agos gyda 3SC, y corff mantell ar gyfer sefydliadau’r 3ydd sector yng Nghymru i helpu i hyfforddi unigolion sydd â rhwystrau cymhleth.

 

Maent hefyd yn ymwneud â’r fenter Lles Drwy Waith i helpu pobl anabl i gynnal eu rolau yn y gwaith ac i ddod yn iach a heini.

 

Yn unol â’i agenda cynhwysiant digidol, mae Remploy wedi lansio cynnyrch newydd o’r enw ‘iRemploy’, sef fersiwn ar-lein o’r darpariaethau a gynigir i gleientiaid yn eu canghennau. Ers ei lansio, mae dros 2,500 wedi cofrestru. 

 

Mae SM yn falch o gyhoeddi, yn dilyn cais llwyddiannus i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, maent ar hyn o bryd yn helpu 53 o bobl ifanc rhwng 14-19 oed gyda phontio o’r ysgol i gyflogaeth. Mae’r prosiect wedi dod i ben bellach ond maent yn gweithio gyda phartneriaid eraill i ganfod ffordd o adeiladu arno a’i symud ymlaen.

 

 

5.3 Karen Beattie: Safbwynt personol

 

Siaradodd KB am ei phrofiadau cyflogaeth fel person anabl. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel swyddog mynediad ar gyfer awdurdod lleol. Siaradodd am yr heriau a’r llwyddiannau yn ystod ei chyflogaeth. Roedd rhai o’r rhwystrau yn cynnwys gwahaniaethu ac agweddau sefydliadol. Dywedodd hefyd fod rhai sefydliadau yn defnyddio e-hyfforddiant, darpariaeth ar-lein, er mwyn hysbysu a hyfforddi staff am faterion anabledd, sef model, yn ei barn hi, sy’n methu oherwydd y diffyg rhyngweithio.

 

Adeiladau hygyrch yw’r rhwystr mwyaf y mae’n rhaid i KB eu goresgyn yn ddyddiol. Ychwanegodd fod cynnydd yn cael ei wneud ond mae angen llawer mwy.

 

 

 

 

 

 

5.4 Jenny Lewis: Symud y tu hwnt i gyflogaeth warchodol

 

Siaradodd JL am ei brofiad cyflogaeth ei merch, Bethan.

 

Mae Bethan yn 24 oed ac mae ganddi Syndrom Down. Mae Bethan yn gweithio mewn bwyty ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd ac yn mwynhau ei swydd newydd. Fodd bynnag, cyn hyn, roedd yn gweithio mewn caffi menter gymdeithasol a dim ond yn ennill 50c yr awr. Roedd JL yn poeni bod hyn yn dal i ddigwydd a bod tybiaeth o hyd y bydd pobl ag anableddau dysgu yn mynd i ganolfan ddydd neu gaffi menter gymdeithasol. Roedd yn teimlo mai un ffordd o ddatrys hyn oedd rheoleiddio gwasanaethau dydd anabledd dysgu.

 

 

5.5 Trafodaeth a chamau gweithredu

 

Dywedodd RD wrth aelodau bod yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad ymgynghori yr wythnos nesaf ynghylch Mynediad i Waith.

 

Ynghyd â Gyrfa Cymru, mae Anabledd Cymru wedi cael gwahoddiad i siarad am y Grŵp Gweinidogol ar Ddiwygio Lles ynghylch materion cyflogaeth. Cytunodd RD i adrodd y sylwadau a nodwyd yn y cyfarfod heddiw.

 

Cam i’w gymryd: RD i adrodd y sylwadau i’r Grŵp Gweinidogol ar Ddiwygio Lles.

 

Wrth gyfeirio at Strategaeth Anabledd, Iechyd a Chyflogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau, nododd RD fod Anabledd Cymru wedi cymryd rhan yn y cyfarfod ymgynghori ym mis Mehefin. Yn dilyn llwyddiant y cyfarfod hwn, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cytuno i hwyluso dau gyfarfod fforwm y flwyddyn.

 

Cyn dod â’r cyfarfod i ben, ychwanegodd MI ei fod wedi bod mewn trafodaethau ag Anabledd Cymru ynghylch pryderon bod trafnidiaeth yn cael ei dynnu ôl i fyfyrwyr anabl pan fyddant yn 18 oed, gan eu rhwystro rhag cael mynediad i addysg bellach ac uwch. Teimlodd y dylid ymdrin â’r pwnc hwn yn y dyfodol.

6.

Unrhyw fater arall

Nid oedd materion eraill i’w trafod.

 

7.

Y cyfarfod nesaf: 3 Rhagfyr 2014, manylion i’w cadarnhau